
Mae Antur Teifi yn gwmni annibynnol sydd yn ysgogi, datblygu a chefnogi mentrau ac unigolion i gyflawni amcanion personol a busnes.
Mae gwreiddiau'r cwmni'n ddwfn yn ardal Dyffryn Teifi. Sefydlwyd Antur Teifi yn wreiddiol yn 1979 i gynorthwyo datblygiad yr economi lleol yn y rhanbarth yma. Erbyn hyn, mae Antur Teifi yn rhan annatod o'r ardal lleol. Y mae'r mudiad hefyd yn gysylltiedig â chyflawni lefel uchel o weithgaredd arloesol ar draws Cymru ac ymhellach.
Asiantaeth Menter ydym a sefydlwyd ers blynyddoedd mawr. Yr ydym yn ymwybodol o'r materion sydd yn gwynebu entrepreneuriaid a busnes ac felly yn awyddus i ddarparu'r cymorth i sicrhau y gallu i fod yn gystadleuol mewn farchnad sy'n newid yn reolaidd. Oherwydd yr enw da sydd gennym y mae cleientiaid yn dod atom ar gyfer amrediad o wasanaethau craidd, o fewn yr adrannau canlynol:

Cyngor busnes ac hyfforddiant
Os ydych yn cychwyn busnes newydd neu yn rhedeg busnes yn barod, y mae gennym tîm o ymgynghorwyr busnes arbenigol a all eich cynorthwyo gyda syniadau busnes a dyheadau.
Cymorth Cyflogaeth
Yr ydym yn deall bod ymgeisio am swydd newydd yn gallu fod yn ofid ac yn straen. Yr ydym yn arbenigo mewn rhoi cymorth i wella eich cyfleodd o fynd yn ôl i waith.
Specialist Business Services
Gwasnaethau Busnes Arbenigol: Yr ydym yn darparu gwasanaethau arbenigol i fusnesau o bob maint. Drwy weithio gyda grŵpiau o bartneriaid o ansawdd ac ymgynghorwyr y mae'n gwasanaethau arbenigol yn cynnwys marchnata & chyfathrebu, TG & thechnoleg, cyllid a chyflogau, cyflogaeth, rheolaeth staff ac hyfforddiant busnes.
Ein prif nôd yw darganfod eich anghenion unigol ac eich cyfeirio at y gwasanaethau perthnasol, yn fewnol ac allanol. Y mae nifer o'r gwasanaethau a ddarparir gan y cwmni mewn partneriaeth a mudiadau a chymunedau yn yr ardal.
I fod yn fenter cymdeithasol llwyddiannus sydd yn helpu unigolion a busnesau i ddatblygu a tyfu, a thrwy hyn i helpu cymunedau i ffynu.
Antur Teifi Cyf.
Parc Busnes Antur Teifi,
Aberarad,
Castell Newydd Emlyn,
Sir Caerfyrddin,
SA38 9DB,
Cymru, UK
t: 01239 710238
© Antur Teifi 2011 | Mae Antur Teifi wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965.
Cofrestrwyd yng Nghymru | Rhif cofrestr 23194
Rhif TAW: GB 485 2427 30 | Gwefan dyluniwyd gan Canta