Canta Telemat Trac Antur Business

EIN CYMWYSTERAU

Mae Antur Teifi, dros y blynyddoedd, wedi ymwneud â nifer o brosiectau amlwg wedi eu ariannu'n Ewropeaidd. Bu Antur Teifi yn llwyddiannus yn rheoli a gweithredu fel Prif Bartner ar nifer o'r rhaglenni hyn. Rydym wedi bod yn arbennig o awyddus i weithio ar brosiectau sy'n adlewyrchu'n datganiad cenhadaeth i arloesi a chynorthwyo mentrau o ansawdd i greu cynnyrch a gwasanaethau sy'n cyfrannu at ddatblygiad economaidd yr ardal.

  • Cefnogaeth Busnes
  • eFasnach
  • Hyfforddiant
  • Bwyd Amaeth
  • Cymunedau
  • Mentrau Cymdeithasol

CEFNOGAETH BUSNES


Businet

Nôd prosiect Businet oedd gwella a chynyddu isadeiladedd Mentrau Bach a Chanolig yng Ngorllewin Cymru drwy gefnogi rhwydweithio busnes effeithiol, annog datblygiadau busnes rhwydweithiol a gwneud y gorau o'u ymwneud â chynrychiolaeth Mentrau Bach a Chanolig.

Disgrifiad Targed Cymeradwy Cyflawniad Terfynol Rhagorwyd ar y Targed
Nifer swyddi newydd uniongyrchol 22.5 95.5 DO
Nifer swyddi ddiogelwyd 225 249 DO
Nifer MBaCh newydd a'r rhai ddiogelwydd 250 313 DO
£k cynnydd mewn trosiant MBaCh gynorthwywyd/gefnogwyd 450 2022 DO

Cyllid y Prosiect: ERDF | Hyd y Prosiect: 2000 - 2004 | Gwerth y Prosiect: £540,063

Ymwybyddiaeth Ariannol

O ganlyniad i drafodaethau gofynnodd Cyngor Sir Caerfyrddin i ni gyflenwi Cefnogaeth Ymwybyddiaeth Ariannol i unigolion i'w cynorthwyo i reoli eu cyllid pan fo incwm yn brin. Gwnaed hyn ledled y sir (gan gynnwys canolfannau gwaith allanol) dros gyfnod o 2 flynedd. Derbyniodd dros 300 o unigolion 16 - 80 oed gefnogaeth mewn grwpiau maint 1 i 25. Cefnogwyd y prosiect gan fwy na 39 o sefydliadau partneriaeth naill ai drwy atgyfeiriadau neu drwy ddarparu lleoliad.

GSB - Cefnogaeth Cyffredinol i Fusnesau, Sir Gaerfyrddin 2003 - 2008

Darparu cyngor busnes cyffredinol a chefnogaeth i Fentrau Bach a Chanolig i alluogi tyfiant, yn cynnwys Cynlluniau Busnes & Marchnata, blaenamcanion Ariannol & Sustem Rheoli Gwybodaeth, cyrchu cyllid a cheisiadau am grantiau.

2007 - 08 Targedau Gwir
Swyddi grewyd 20 25
Swyddi ddiogelwyd 12 14.5
Cynnydd mewn trosiant £250K £750K

Cefnogaeth Busnes Newydd

Roedd y rhaglen Cychwyn Busnes Newydd yn gweithrdu o 2005-2008 yn darparu ystod o wasanaethau i unigolion i'w galluogi i greu mentrau llwyddiannus, yn cynnwys cwrs hyfforddiant busnes drwy fodiwlau a chefnogaeth un-i-un gan ymgynghorydd busnes.

Cychwyn Busnes Newydd - De Ceredigion 2005 - 08

2005 -08 Targed Gwir % Cyflawniad
Cychwyn Busnes Newydd 259 254 98%
Swyddi Grewyd 338 360 107%
Buddsoddiad Ddiogelwyd 760K 5.2M 684%

Tradenet

Sefydlwyd 12 o grŵpiau i gynorthwyo MBaCh i glystyru gwybodaeth a rhwydweithio.

  • Celf & Chrefft
  • eFasnach
  • Amgylcheddol
  • Allforiwr
  • TGaCh
  • Deddfwriaeth
  • Cynhyrchu
  • Arallgyfeirio Gwledig
  • Twristiaeth
  • Busnesau Cyfrwng Cymraeg
  • Gwragedd mewn Busnes
  • Pobl Ifanc mewn Busnes
Mesur Targed hyd Chwefror Cyflawnwyd hyd yn hyn
Nifer MBaCh newydd, ac sy'n bodoli, dderbyniodd wybodaeth a chyngor 350 644
Nifer MBaCh newydd, ac sy'n bodoli, sy'n derbyn cymorth 150 15*
Nifer MBaCh newydd, ac sy'n bodoli, gynorthwywyd 250 313
Nifer swyddi newydd grewyd 35 66
Nifer MBaCh sy'n mabwysiadu Sustemau Rheoli Amgylcheddol 2 Cyflawnwyd 2 Ddraig Werdd
Nifer swyddi ddiogelwyd 300 345
Cynnydd mewn trosiant £3,000,000 £5,567,600

*Cafodd hwn ei ail-ddosbarthu gan WEFO 18 mis wedi dechrau'r prosiect fel dau ddiwrnod +

Cyllid y Prosiect: ERDF | Gwerth y Prosiect: £456,661 | Hyd y Prosiect: Mawrth 2003 - Mehefin 2006

Winnovate

Prosiect partneriaeth €600,000 i roi mantais gystadleuol gref i fentrau cynhyrchu bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru a De Ddwyrain yr Iwerddon. Byddai WINNOVATE yn cynorthwyo 40 o gwmnïau MBaCh - 20 Gwyddelig ac 20 Cymreig - gyrraedd eu llawn botensial mewn cynllunio cynnyrch, drwy ganiatau i gyfranogwyr i fanteisio ar gynulliad unigryw o academyddion, yngynghorwyr busnes a chynllunwyr diwydiannol.

Arweiniwyd y prosiect dwy flynedd gan Ganolfan Genedlaethol Cynllunio Cynnyrch ac Ymchwil Datblygiad (PDR) yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC), mewn partneriaeth ag Athrofa Dechnoleg, Carlow, Iwerddon, Gwasanaethau Busnes Antur Teifi leolir yn Sir Gaerfyrddin a Chanolfan Busnes ac Arloesedd y De Ddwyrain (SEBIC) yn Waterford, Iwerddon.

Crynodeb o berfformiad WINNOVATE Cymru Medi 2005

  • Ymwelwyd â 28 o gwmnïau a'u cynorthwyo
  • Arwyddwyd 11 o brosiectau
  • Sicrhawyd £7350
  • Cyflogwyd 6 ymgynghoriaeth cynllunio allanol
  • Cynhaliwyd 3 gweithdy
  • Crewyd 1 swydd

Cyllid y Prosiect: Interreg IIIA | Gwerth y Prosiect: £78,000 | Hyd y Prosiect: Medi 2003 - Medi 2005

NÔL I'R TOP

EFASNACH

EPROC logo

Menter Ewropeaidd rhyng-genedlaethol gyd-weithredol oedd EPROC a gomisiynwyd i annog a chefnogi MBaCh megis Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau a gweithdrefnau eGaffaeliad a Chaffaeliad Cynaliadwy newydd. Cafodd EPROC ei gyllido gan Interreg IIIB, ac Antur Teifi oedd y prif bartner ynghyd â phartneriaid o Iwerddon, Cymru, Yr Almaen a'r Iseldiroedd.

Allbynnau'r Prosiect: Deg Astudiaeth Achos: Pump yn canolbwyntio ar MBaCh Cymreig a phump yn edrych ar brofiadau MBaCh yn yr Almaen, Tri canllaw i MBaCh ar eGaffaeliad Cynaliadwy, Dau ganllaw i Awdurdodau Lleol ar eGaffaeliad Cynaliadwy, Canllaw Cyfuno Meddalwedd i MBaCh, gwefan rhyngweithiol gyda thiwtorialau ar-lein - www.eproc.org , gwerthusiad prosiect ac adroddiad terfynol ar y prosiect.
Cyllid y Prosiect: Interreg IIIB | Hyd y Prosiect: Rhagfyr 2003 - Gorffennaf 2008| Gwerth y Prosiect: €384,950

Opportunity Wales logo

Cyflenwi cefnogaeth eFasnach Cyfle Cymru gan ddefnyddio tïm ymgynghori trwyddedig a phrofiadol mewn eCIC, @TEB/TMB a CIM, yn cynnig cyngor a chymorth i ganfod sut a ble gall TGaCh helpu busnesau unigol i dyfu a gwella'u effeithiolrwydd. Roedd hyn yn cynnwys rheolaeth prosiect a gweithredu datrysiadau, datblygiad cam-wrth-gam o ddatrysiadau TGaCh drwy gymorth a chyngor un-i-un, adolygiadau eFasnach, cynlluniau gweithredu ac yngynghoriad wedi'i dalu, cael gafael ar gefnogaeth cyllidol a chefnogaeth gweithredu parod i bob agwedd o eFasnach.

NÔL I'R TOP

HYFFORDDIANT

Tasglu Cymunedol (TC)

Mae Trac yn cyflawni y ddarpariaeth hon o dair ganolfan yn Sir Gaerfyrddin fel is-gontractwyr i Groundworks UK. Rhaglen wedi ei anelu at yr ifanc rhwng 18-24 yw'r Tasglu Cymunedol, pobl a fu'n ddi-waith am o leiaf 6 mis. Nôd y rhaglen yw datblygu'r person ifanc a'i harwain yn agosach at gyflogaeth. Cyfnod o 13 wythnos yw'r lleoliadau gwaith mewn sefydliadau gwirfoddol/cymunedol.

Cynnudd ar Waith

Mae Trac yn cyflawni y ddarpariaeth hon ar gyfer Adran Gwaith a Phensiynnau yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae Cynnudd ar Waith wedi'i anelu at gynorthwyo cwsmeriaid â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn ôl y hyfforddiant a chyflogaeth, drwy datblygiad personol, mynediad i hyfforddiant a chefnogaeth chwilio am swydd. Mae ein cefnogaeth yn canolbwyntio yn fawr iawn ar gyflogaeth ac fel y cyfryw nid yw'n wasanaeth triniaeth gyffur. Rydym yn helpu ein cleientiaid reoli'r newid enfawr a wnaethant yn newid eu defnydd o gyffuriau. Trwy hyn yn eu helpu i gael mynediad i wasanaethau gofal plant, tai, cyngor ar ddyled a phroblemau erail efallai byddent yn dal i fod ceisio goresgyn.

Capacitate logo

Bu Trac yn llwyddiannus i rheoli a gweithredu fel Prif Bartner ar Capacitate sef partneriaeth ryngwladol wedi ei ariannau gan ESF gyda sefydliadau partneriaeth o Hwngari a Ffrainc.

Bwriad Capacitate oedd cynyddu'r cyfleoedd i bobl sydd yn hawlio budd-daliadau analluogrwydd i fynd nôl i waith trwy roi gwybodaeth wasanaethau cefnogaeth. Trwy hyn datblygu addysg i'r cyflogwyr a hybu agwedd positif tuag at hawlwyr budd-daliadau analluogrwydd i sicrhau fod swyddi gwag yn agored i bawb.

Allbynnau'r prosiect oedd canllaw ymarfer gorau, safle we a darpariaeth hyfforddi ar Ymwybyddiaeth Anabledd i'r MBaCH. Elfen allweddol y prosiect oedd datblygu strategaeth ymadael gynaliadwy er mwyn i'r gwaith ymchwil ac adnoddau eu defnyddio yn y dyfodol.

Yn awr mae Capacitate yn fenter gymdeithasol.

Ei amcanion yw:

  • I barhau i hybu a datblygu pob anabledd wrth weithio tuag at ddiwedd i wahaniaethu trwy addysg, hyfforddiant, adfywio cymunedol a chodi ymwybyddiaeth.

Cyllid y Prosiect: ESF | Gwerth y Prosiect: £441,382 | Hyd y Prosiect: Gorffennaf 2005 - Rhagfyr 2007

Mobile ICT Unit: Telecabana

Hyfforddiant arloesol yn seiliedig ar TGaCh mewn uned symudol, yn targedu'r sector dir yn benodol, yn cynnwys busnes seiliedig ar amaeth, gweithwyr a grwpiau cymunedol gwledig. Addaswyd uned symudol yn arbennig a chynnwys y cyfarpar technoleg diweddaraf er mwyn sicrhau agwedd hyblyg a goresgyn nifer o'r rhwystrau sy'n wynebu cymynedau gwledig a busnesau wrth iddynt fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant.
Ffeithiau & Ffigyrau

  • Cymerodd 1906 o unigolion ran yn ystod y prosiect a derbyniodd 108 MBaCh yn Sir Gaerfyrddin hyfforddiant TG.

Cyllid y Prosiect: Amcan Un ERDF | Hyd y Prosiect: Ebrill 2002 - Tachwedd 2004 | Gwerth y Prosiect: £755,994

Canolfannau Rhaglenni

Bu Trac yn llwyddiannus yn dosbarthu cefnogaeth Canofannau Rhaglenni a'u rhaglaenyddion yn Sir Gaerfyrddin o 1998 i 2002. Cafodd y ddarpariaeth hon ei gyfyngu gan DWP gyda'r bwriad o ddarparu cefnogaeth chwilio am waith i bobl ddi-waith o dair canolfan yn y sir. Roedd mynediad i gyfrifiaduron, y we a phapurau newydd ar gael i'r cwsmeriaid a rhoddir hyfforddiant chwilio am waith ac ar dechnegau cyfweliad.

Yn gyfartalog mae 650 o gwsmeriaid y flwyddyn wedi derbyn y gefnogaeth hon.

NÔL I'R TOP

BWYD-AMAETH

Cefnogi'r Cynhyrchwr I & II

Cefnogaeth a chyngor i gynhyrchwyr newydd, a rhai sy'n bodoli, i ddatblygu a chanfod cyfleoedd marchnata newydd, creu rhwydweithiau rhyng-sector, datblygu cadwyni cyflenwi lleol a datblygu ffyrdd arloesol i hybu Ceredigion i ymwelwyr. Cafodd cyfeirlyfr cynhyrchwyr Ceredigion ei baratoi a'i hysbysebu ar wefan benodol www.bwydceredigionfood.co.uk. Gweithiodd staff gyda chynhyrchwyr unigol drwy gefnogaeth busnes, cyngor, a hyfforddiant gan greu cysylltiadau cryf oddi fewn i'r sector er mwyn lleoli gwybodaeth arbenigol.

Cyllid y Prosiect: ERDF | Gwerth y Prosiect: £350,000 | Hyd y Prosiect: Ionawr 2005 - Rhagfyr 2007

Regiofood

Darparodd y prosiect ddeunydd hyfforddi dysgu-o-bell i'w ddefnyddio wrth baratoi a chyflwyno bwyd wedi ei gynhyrchu'n lleol, i fod o gymorth i gogyddion, mewn Gwestai, tai bwyta a thafarnau, i baratoi prydiau cyson. Gwnaed DVDs rhyngweithiol mewn pedair iaith - Cymraeg, Saesneg, Estoneg ac Eidaleg.

Cyllid y Prosiect: Leonardo | Gwerth y Prosiect: €141,014 | Hyd y Prosiect : Hydref 2003 - Medi 2006

Visitnet

Roedd y prosiect yn caniatáu busnesau i gyfnewid a rhannu gwybodaeth ac arferion da ac yn annog cyswllt a rhwydweithio rhwng busnesau twristiaeth a rhai lletygarwch. Canolbwyntiodd y prosiect Interreg ar ddefnyddio TGaCh hyd yn bosib, gan gadarnhau cynnyrch a gwasanaethau a chreu synergedd sylweddol rhwng cynnyrch a gwasanaethau twristiaeth Sir Gaerfyrddin a Waterford. Drwy weithio gyda'r fasnach sylfaenol, sicrhaodd y prosiect fod y cynnyrch a'r gwasanaethau yn gwneud y gorau o'u potensial yn ogystal â chynhyrchu rhwydwaith o fusnesau'n ymwneud â thwristiaeth.

Cyllid y Prosiect: ERDF INTERREG IIIA | Gwerth y Prosiect: £251,224 | Hyd y Prosiect : Mawrth 2003- Mehefin 2006

NÔL I'R TOP

CYMUNEDAU

Papurar Bro Cenedlaethol
Papurau Bro Cenedlaethol (Rhwydwaith papurau newyddion cymunedol cyfrwng Cymraeg)

Rhwydwaith o 49 o bapurau cymunedol ledled Cymru, gyda phapurau'n derbyn cefnogaeth a chyngor ar gynaliadwyedd; dulliau o ddenu gwirfoddolwyr newydd; sgiliau ysgrifennu effeithiol; a chefnogaeth a chyngor ar strwythur eu mudiad. Sefydlwyd cynllun ysgrifennu i ieuenctid mewn cydweithrediad â BBC Cymru'r Byd. Gweithredwyd y cytundeb hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ffeithiau & Ffigurau:

  • Creu a chyhoeddi llawlyfr i bapurau cymunedol.
  • Derbyniwyd 322 o erthyglau neu adolygiadau ar gyfer y Cynllun Ysgrifennu i'r Ifanc, a chyhoeddwyd 925 ohonynt ar wefan y BBC.

Ffynhonnell Cyllid = EAGGF Amcan Un | Gwerth y cytundeb = £513,670 | Hyd = Ebrill 2005 - Ebrill 2008

NÔL I'R TOP

Celtic Community Finance

Cyllid y Prosiect : Interreg III | Gwerth y Prosiect: £97,045
Hyd y Prosiect: Medi 2003 - Medi 2005

Clystyrau Rhwydweithio Arloesi Gwledig(RINC)

Gweithio yn Sir Gaerfyrddin wledig i ddatblygu mentrau cymdeithasol a chymunedol, gan ganolbwyntio ar feithrin gallu, a sicrhau fod y fenter yn datblygu mewn modd sy'n addas i'r ardal.
Ffeithiau & Ffigyrau

  • Rhoddwyd cefnogaeth ddwys i 51 o grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol
  • Sefydlwyd 5 menter gymdeithasol newydd

Ffynhonnell cyllid = EAGGF Objective One
Gwerth y cytundeb = £452,875
Hyd = Gorffennaf 2004 - Mawrth 2008

NÔL I'R TOP