
Menter Gymdeithasol yw Antur Teifi a chyfranddalwyr o'r gymuned sy'n berchen ar y cwmni. Nid yw'r cyfranddalwyr yn elwa'n unigol o'u buddsoddiad ond cytunwyd y byddai unrhyw warged yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cwmni er hybu ffyniant yn yr ardal ac i gynnal safon uchel y gwasanaethau a gynigir er budd y gymuned. Gall unrhyw un dros 16 mlwydd oed sy'n cefnogi amcanion Antur Teifi ac sy'n byw neu a fu'n byw neu weithio yn Nyffryn Teifi neu'r gymdogaeth, ddod yn gyfranddaliwr. Mae aelod, wedi talu £1, yn gallu hawlio un cyfran yn unig oddi fewn i'r mudiad.
Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am sefydlu amcanion strategol y cwmni am y flwyddyn, gwerthuso allbynnau a chyflawniadau cyllidol. Maent yn cyfarfod yn chwarterol gyda chyfarfodydd arbennig ychwanegol ar gyfer cynllunio busnes, yn ôl yr angen. Etholir aelodau'r Bwrdd o'r cyfranddalwyr, yn ogystal ag un cynrychiolydd yr un o Gynghorau Sir Ceredigion a Chaerfyrddin, un sylwedydd ar ran Lywodraeth Cynulliad Cymru a Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni. Mae aelodau'r Bwrdd, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd, yn cael eu hethol yn flynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Mae hwn yn cynnwys rheolwyr y mudiad ac yn cael ei gadeirio gan y Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae'r Tîm Rheolaeth yn gyfrifol am agweddau gweithredol er cyflawni Amcanion Strategol y mudiad.
Bev Pold
Antur Teifi Cyf.
Parc Busnes Antur Teifi,
Aberarad,
Castell Newydd Emlyn,
Sir Caerfyrddin,
SA38 9DB,
Cymru, UK
t: 01239 710238
© Antur Teifi 2011 | Mae Antur Teifi wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965.
Cofrestrwyd yng Nghymru | Rhif cofrestr 23194
Rhif TAW: GB 485 2427 30 | Gwefan dyluniwyd gan Canta