Canta Telemat Trac Antur Business

Sut i newid maint yr ysgrifen

Rydym yn gobeithio eich bod chi'n meddwl bod ein gwefan yn hawdd defnyddio. Fe'i dyluniwyd yn ofalus i fod mor hygyrch â phosib felly rydym wedi defnyddio meintiau ffont cymharol er mwyn gadael i chi gynyddu maint y ffont os oes angen. Rydym wedi osgoi defnyddio widget newid maint gan nad yw hwn yn gweithio ar bob cyfrifiadur felly rydym wedi cynnwys y fideo defnyddiol a thrawsgrifiad gan Ian Lloyd ac accessify.com yn esbonio sut i newid maint testun ar unrhyw wefan gan ddefnyddio'r offer ar eich porwr.

I unrhyw un sydd yn methu gwylio na chlywed y fideo, mae'r canlynol yn drawsgrifiad o'r fideo:

Os ydych yn cael anhawster darllen y tesun wrth wylio gwefan gallwch newid maint y testun i wneud hi'n fwy neu'n llai, yn ôl eich gofynion. Wedi dweud hyn, nid yw porwyr - megis Internet Explorer a Firefox - yn gwneud hyn yn amlwg fel rheol; maent i bob pwrpas yn newid y teclunau defnyddiol hyn.

Wrth ddefnyddio Internet Explorer, neu IE, gallwch newid maint y ffont wrth ddewis y ddewislen View ac yna dewis Text Size - bydd yna 5 gosodiad i ddewis wrthyn nhw. Mae hyn yn wybodaeth ddefnyddiol ac unwaith i chi ddewis y gosodiadau hyn, byddai'n cael ei weithredu ar bob gwefan yr ydych yn ymweld.

Mae gosod rheolwr maint y testun ar eich bar offer yn barhaol yn gallu bod yn well opsiwn. I wneud hyn, pwyswch fotwm de eich llygoden ar y bar offer a dewiswch 'Customize'. Bydd rhestr o'r holl ddewisiadau ar gyfer y bar offer yn ymddangos ar y chwith. Ychydig islaw'r bydd yr eicon Text ac yna cliciwch 'Add'. Gallwch hefyd newid yr eiconau arddangos eraill tra eich bod chi yma, rhag ofn bod yr eiconau yn rhy fach. Unwaith i chi bwyso 'Close' fe welwch reolwr Text a Size yna, bydd yn gwneud hi llawer haws i newid y maint.

Os ydych yn defnyddio IE 7, mae'r broses yn debyg iawn - cliciwch y botwm de ar y bar offer, ond mae angen i chi ddewis 'Customize Command Bar' ac yna 'Add or Remove Commands'.

Wrth ddefnyddio Firefox, gallwch gynyddu maint y ffont mewn modd tebyg i Internet Explorer. Yn wahanol i IE, nid ydych yn cael eich cyfyngu i 5 maint (dau yn fwy a dau yn llai na'r maint gwreiddiol).

Yn anffodus, nid yw Firefox yn cynnig eicon bar offer ar gyfer newid maint testun, hyd yn oed os ydych yn penderfynu ei addasu. Er hyn, mae Patrick Lauke o Brifysgol Salford wedi creu estyniad sydd yn creu set o fotymau gallwch ychwanegu i'r bar offer. Ewch i dudalen Firefox Extensions a chwilio am 'Text Size Toolbar', neu ewch i tinyurl.com/2ztudx. Unwaith yr ydych wedi gosod yr estyniad ac ailddechrau Firefox, pwyswch fotwm de'r llygoden a dewiswch Customise. Bydd botymau yn ymddangos a gallwch lusgo'r rhain i mewn i'ch bar offer.

Mae yna ffyrdd eraill i newid maint testun ar wefan. Os oes gennych lygoden gydag olwyn rholio, pwyswch CTRL - neu'r allweddell Command ar Mac - tra yn symud yr olwyn i fyny a lawr. Ar gyfer defnyddwyr Firefox, pwyswch CTRL a'r allweddelli plws (+) a meinws (-). Ac yn olaf, os ydych yn defnyddio IE 7, gallwch bwyso'r botymau plws a meinws tra yn pwyso CTRL a bydd y dudalen gyfan yn symud i mewn ac allan o'r dudalen.

Hygyrchedd Wefan

Mae'r wefan hon yn cael ei ddilysu bob cwarter er mwyn sicrhau ein bod yn cadw safon uchel o godio gan ddefnyddio teclunau dilysu y Worldwide Web Consortium (W3C). Y mae hefyd yn cael ei adolygu yn annibynnol gan ein tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac rydym yn ceisio cynnwys eu hawgrymiadau yn nyluniad ein gwefan.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wella hygyrchedd ein gwefan, neu os ydych yn profi anhawster wrth ddefnyddio unrhyw elfen, mae croeso i chi gysylltu â ni i ddweud. Rydym yn falch o adborth ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella'r modd yr ydym yn darparu gwybodaeth i'n cleientiaid. Gallwch gysylltu â'n tîm we ar 01239 710238 neu e-bostio dija@canta.co.uk

Valid XHTML 1.0 TransitionalValid CSS 2.1