Antur Teifi - Yn Hybu Ffyniant

Mae Antur Teifi yn gwmni annibynnol sydd yn ysgogi, datblygu a chefnogi mentrau sydd â'r potensial i greu ffyniant a llwyddiant yn yr economi lleol.

Mae gwreiddiau'r cwmni'n ddwfn yn ardal Dyffryn Teifi a sefydlwyd y cwmni'n wreiddiol er mwyn cynorthwyo datblygiad yr economi leol. Erbyn hyn, mae'r enw'n hysbys ledled Gorllewin Cymru a thu hwnt, ac mae'n cael ei gysylltu gyda gweithgareddau arloesol o safon uchel.

Menter gymdeithasol yw Antur Teifi, a chyfranddalwyr o'r gymuned sy'n berchen y cwmni, er nad ydynt yn elwa'n unigol o'u buddsoddiad. Maent wedi cytuno fod unrhyw elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cwmni er mwyn hybu ffyniant yr ardal a chadw safon uchel y gwasanaethau a gynigiwn er budd ardal Ceredigion a Sir Gâr.

Gellir rhannu gwasanaethau craidd y cwmni fel hyn:

Yr ydym yn cymeryd agwedd gyfannol tuag at helpu busnesau a chymunedau i ddatblygu eu syniadau. Ein prif fwriad yw canfod anghenion unigol ein cleientiaid a'u harwain at yr adrannau perthnasol, yn fewnol ac allanol.

Cyflenwir nifer o'r prosiectau yr ydym yn rhan ohonynt mewn partneriaeth â mudiadau a chymunedau yn yr ardal.

© Antur Teifi 2010 | Dyluniwyd gan Telemat | Icons by http://dryicons.com