Mae Antur Teifi, dros y blynyddoedd, wedi ymwneud â nifer o brosiectau amlwg wedi eu ariannu'n Ewropeaidd. Bu Antur Teifi yn llwyddiannus yn rheoli a gweithredu fel Prif Bartner ar nifer o'r rhaglenni hyn. Rydym wedi bod yn arbennig o awyddus i weithio ar brosiectau sy'n adlewyrchu'n datganiad cenhadaeth i arloesi a chynorthwyo mentrau o ansawdd i greu cynnyrch a gwasanaethau sy'n cyfrannu at ddatblygiad economaidd yr ardal.
Nôd prosiect Businet oedd gwella a chynyddu isadeiladedd Mentrau Bach a Chanolig yng Ngorllewin Cymru drwy gefnogi rhwydweithio busnes effeithiol, annog datblygiadau busnes rhwydweithiol a gwneud y gorau o'u ymwneud â chynrychiolaeth Mentrau Bach a Chanolig.
| Disgrifiad | Targed Cymeradwy | Cyflawniad Terfynol | Rhagorwyd ar y Targed |
| Nifer swyddi newydd uniongyrchol | 22.5 | 95.5 | DO |
| Nifer swyddi ddiogelwyd | 225 | 249 | DO |
| Nifer MBaCh newydd a'r rhai ddiogelwydd | 250 | 313 | DO |
| £k cynnydd mewn trosiant MBaCh gynorthwywyd/gefnogwyd | 450 | 2022 | DO |
Cyllid y Prosiect: ERDF
Hyd y Prosiect: 2000 - 2004
Gwerth y Prosiect: £540,063
O ganlyniad i drafodaethau gofynnodd Cyngor Sir Caerfyrddin i ni gyflenwi Cefnogaeth Ymwybyddiaeth Ariannol i unigolion i'w cynorthwyo i reoli eu cyllid pan fo incwm yn brin. Gwnaed hyn ledled y sir (gan gynnwys canolfannau gwaith allanol) dros gyfnod o 2 flynedd. Derbyniodd dros 300 o unigolion 16 - 80 oed gefnogaeth mewn grwpiau maint 1 i 25. Cefnogwyd y prosiect gan fwy na 39 o sefydliadau partneriaeth naill ai drwy atgyfeiriadau neu drwy ddarparu lleoliad.
Darparu cyngor busnes cyffredinol a chefnogaeth i Fentrau Bach a Chanolig i alluogi tyfiant, yn cynnwys Cynlluniau Busnes & Marchnata, blaenamcanion Ariannol & Sustem Rheoli Gwybodaeth, cyrchu cyllid a cheisiadau am grantiau.
| 2007 - 08 | Targedau | Gwir |
| Swyddi grewyd | 20 | 25 |
| Swyddi ddiogelwyd | 12 | 14.5 |
| Cynnydd mewn trosiant | £250K | £750K |
Roedd y rhaglen Cychwyn Busnes Newydd yn gweithrdu o 2005-2008 yn darparu ystod o wasanaethau i unigolion i'w galluogi i greu mentrau llwyddiannus, yn cynnwys cwrs hyfforddiant busnes drwy fodiwlau a chefnogaeth un-i-un gan ymgynghorydd busnes.
| 2005 -08 | Targed | Gwir | % Cyflawniad |
| Cychwyn Busnes Newydd | 259 | 254 | 98% |
| Swyddi Grewyd | 338 | 360 | 107% |
| Buddsoddiad Ddiogelwyd | 760K | 5.2M | 684% |
Sefydlwyd 12 o grŵpiau i gynorthwyo MBaCh i glystyru gwybodaeth a rhwydweithio.
| Mesur | Targed hyd Chwefror | Cyflawnwyd hyd yn hyn |
| Nifer MBaCh newydd, ac sy'n bodoli, dderbyniodd wybodaeth a chyngor | 350 | 644 |
| Nifer MBaCh newydd, ac sy'n bodoli, sy'n derbyn cymorth | 150 | 15* |
| Nifer MBaCh newydd, ac sy'n bodoli, gynorthwywyd | 250 | 313 |
| Nifer swyddi newydd grewyd | 35 | 66 |
| Nifer MBaCh sy'n mabwysiadu Sustemau Rheoli Amgylcheddol | 2 | Cyflawnwyd 2 Ddraig Werdd |
| Nifer swyddi ddiogelwyd | 300 | 345 |
| Cynnydd mewn trosiant | £3,000,000 | £5,567,600 |
*Cafodd hwn ei ail-ddosbarthu gan WEFO 18 mis wedi dechrau'r prosiect fel dau ddiwrnod +
Cyllid y Prosiect: ERDF
Gwerth y Prosiect: £456,661
Hyd y Prosiect: Mawrth 2003 - Mehefin 2006
Prosiect partneriaeth €600,000 i roi mantais gystadleuol gref i fentrau cynhyrchu bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru a De Ddwyrain yr Iwerddon. Byddai WINNOVATE yn cynorthwyo 40 o gwmnïau MBaCh - 20 Gwyddelig ac 20 Cymreig - gyrraedd eu llawn botensial mewn cynllunio cynnyrch, drwy ganiatau i gyfranogwyr i fanteisio ar gynulliad unigryw o academyddion, yngynghorwyr busnes a chynllunwyr diwydiannol.
Arweiniwyd y prosiect dwy flynedd gan Ganolfan Genedlaethol Cynllunio Cynnyrch ac Ymchwil Datblygiad (PDR) yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC), mewn partneriaeth ag Athrofa Dechnoleg, Carlow, Iwerddon, Gwasanaethau Busnes Antur Teifi leolir yn Sir Gaerfyrddin a Chanolfan Busnes ac Arloesedd y De Ddwyrain (SEBIC) yn Waterford, Iwerddon.
Cyllid y Prosiect: Interreg IIIA
Gwerth y Prosiect: £78,000
Hyd y Prosiect: Medi 2003 - Medi 2005
Menter Ewropeaidd rhyng-genedlaethol gyd-weithredol oedd EPROC a gomisiynwyd i annog a chefnogi MBaCh megis Awdurdodau Lleol i weithredu polisïau a gweithdrefnau eGaffaeliad a Chaffaeliad Cynaliadwy newydd. Cafodd EPROC ei gyllido gan Interreg IIIB, ac Antur Teifi oedd y prif bartner ynghyd â phartneriaid o Iwerddon, Cymru, Yr Almaen a'r Iseldiroedd.
Cyllid y Prosiect: Interreg IIIB
Hyd y Prosiect: Rhagfyr 2003 - Gorffennaf 2008
Gwerth y Prosiect:€384,950
Allbynnau'r Prosiect: Deg Astudiaeth Achos: Pump yn canolbwyntio ar MBaCh Cymreig a phump yn edrych ar brofiadau MBaCh yn yr Almaen, Tri canllaw i MBaCh ar eGaffaeliad Cynaliadwy, Dau ganllaw i Awdurdodau Lleol ar eGaffaeliad Cynaliadwy, Canllaw Cyfuno Meddalwedd i MBaCh, gwefan rhyngweithiol gyda thiwtorialau ar-lein - www.eproc.org , gwerthusiad prosiect ac adroddiad terfynol ar y prosiect.
Cyflenwi cefnogaeth eFasnach Cyfle Cymru gan ddefnyddio tïm ymgynghori trwyddedig a phrofiadol mewn eCIC, @TEB/TMB a CIM, yn cynnig cyngor a chymorth i ganfod sut a ble gall TGaCh helpu busnesau unigol i dyfu a gwella'u effeithiolrwydd. Roedd hyn yn cynnwys rheolaeth prosiect a gweithredu datrysiadau, datblygiad cam-wrth-gam o ddatrysiadau TGaCh drwy gymorth a chyngor un-i-un, adolygiadau eFasnach, cynlluniau gweithredu ac yngynghoriad wedi'i dalu, cael gafael ar gefnogaeth cyllidol a chefnogaeth gweithredu parod i bob agwedd o eFasnach.
Cyllid y Prosiect: ESF
Gwerth y Prosiect: £441,382
Hyd y Prosiect: Gorffennaf 2005 - Rhagfyr 2007
Hyfforddiant arloesol yn seiliedig ar TGaCh mewn uned symudol, yn targedu'r sector dir yn benodol, yn cynnwys busnes seiliedig ar amaeth, gweithwyr a grwpiau cymunedol gwledig. Addaswyd uned symudol yn arbennig a chynnwys y cyfarpar technoleg diweddaraf er mwyn sicrhau agwedd hyblyg a goresgyn nifer o'r rhwystrau sy'n wynebu cymynedau gwledig a busnesau wrth iddynt fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant.
Ffeithiau & Ffigyrau
Cyllid y Prosiect: Amcan Un ERDF
Hyd y Prosiect: Ebrill 2002 - Tachwedd 2004
Gwerth y Prosiect: £755,994
Cefnogaeth a chyngor i gynhyrchwyr newydd, a rhai sy'n bodoli, i ddatblygu a chanfod cyfleoedd marchnata newydd, creu rhwydweithiau rhyng-sector, datblygu cadwyni cyflenwi lleol a datblygu ffyrdd arloesol i hybu Ceredigion i ymwelwyr. Cafodd cyfeirlyfr cynhyrchwyr Ceredigion ei baratoi a'i hysbysebu ar wefan benodol www.bwydceredigionfood.co.uk. Gweithiodd staff gyda chynhyrchwyr unigol drwy gefnogaeth busnes, cyngor, a hyfforddiant gan greu cysylltiadau cryf oddi fewn i'r sector er mwyn lleoli gwybodaeth arbenigol.
Cyllid y Prosiect: ERDF
Gwerth y Prosiect: £350,000
Hyd y Prosiect: Ionawr 2005 - Rhagfyr 2007
Darparodd y prosiect ddeunydd hyfforddi dysgu-o-bell i'w ddefnyddio wrth baratoi a chyflwyno bwyd wedi ei gynhyrchu'n lleol, i fod o gymorth i gogyddion, mewn Gwestai, tai bwyta a thafarnau, i baratoi prydiau cyson. Gwnaed DVDs rhyngweithiol mewn pedair iaith - Cymraeg, Saesneg, Estoneg ac Eidaleg.
Cyllid y Prosiect: Leonardo
Gwerth y Prosiect: €141,014
Hyd y Prosiect : Hydref 2003 - Medi 2006
Roedd y prosiect yn caniatáu busnesau i gyfnewid a rhannu gwybodaeth ac arferion da ac yn annog cyswllt a rhwydweithio rhwng busnesau twristiaeth a rhai lletygarwch. Canolbwyntiodd y prosiect Interreg ar ddefnyddio TGaCh hyd yn bosib, gan gadarnhau cynnyrch a gwasanaethau a chreu synergedd sylweddol rhwng cynnyrch a gwasanaethau twristiaeth Sir Gaerfyrddin a Waterford. Drwy weithio gyda'r fasnach sylfaenol, sicrhaodd y prosiect fod y cynnyrch a'r gwasanaethau yn gwneud y gorau o'u potensial yn ogystal â chynhyrchu rhwydwaith o fusnesau'n ymwneud â thwristiaeth.
Cyllid y Prosiect: ERDF INTERREG IIIA
Gwerth y Prosiect: £251,224
Hyd y Prosiect : Mawrth 2003- Mehefin 2006
Rhwydwaith o 49 o bapurau cymunedol ledled Cymru, gyda phapurau'n derbyn cefnogaeth a chyngor ar gynaliadwyedd; dulliau o ddenu gwirfoddolwyr newydd; sgiliau ysgrifennu effeithiol; a chefnogaeth a chyngor ar strwythur eu mudiad. Sefydlwyd cynllun ysgrifennu i ieuenctid mewn cydweithrediad â BBC Cymru'r Byd.
Gweithredwyd y cytundeb hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ffeithiau & Ffigurau:
Ffynhonnell Cyllid = EAGGF Amcan Un
Gwerth y cytundeb = £513,670
Hyd = Ebrill 2005 - Ebrill 2008
Cyllid y Prosiect : Interreg III
Gwerth y Prosiect: £97,045
Hyd y Prosiect: Medi 2003 - Medi 2005
Gweithio yn Sir Gaerfyrddin wledig i ddatblygu mentrau cymdeithasol a chymunedol, gan ganolbwyntio ar feithrin gallu, a sicrhau fod y fenter yn datblygu mewn modd sy'n addas i'r ardal.
Ffeithiau & Ffigyrau
Ffynhonnell cyllid = EAGGF Objective One
Gwerth y cytundeb = £452,875
Hyd = Gorffennaf 2004 - Mawrth 2008
© Antur Teifi 2010 | Dyluniwyd gan Telemat | Icons by http://dryicons.com