Gall Antur Teifi gynnig cefnogaeth a chyngor i helpu'ch busnes a/neu fenter gymunedol i dyfu.
Mae Antur Teifi yn gwmni annibynnol sydd yn ysgogi a datblygu prosiectau a busnesau gyda'r potensial i greu llwyddiant a chyfoeth o fewn economi yr ardal.
Mae gwreiddiau'r cwmni yn ddwfn yn Nyffryn Teifi. Er mai ar gyfer cynorthwyo datblygiad yr economi yn yr ardal honno y sefydlwyd y cwmni yn wreiddiol yn 1979, mae'r enw erbyn hyn yn cael ei gysylltu gyda safon uchel o weithgareddau arloesol ar draws Gorllewin Cymru a thu hwnt.
Mae'r cwmni yn darparu gwasanaeth ar gyfer unigolion, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau mawr a bach trwy eu prosiectau a'u gwasanaethau masnachol:
Menter gymdeithasol yw Antur Teifi a chyfranddalwyr o'r gymuned sydd yn berchen ar y cwmni er nad ydynt yn elwa'n bersonol o'u buddsoddiad. Maent wedi cytuno y bydd unrhyw elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cwmni er mwyn hybu ffyniant yr ardal ac er mwyn cadw'r lefel uchel o wasanaeth rydym yn ei gynnig i'r gymuned.
Daw cyfran helaethaf incwm y cwmni o'r gwasanaethau masnachol. Defnyddir unrhyw elw a ddaw o'r gweithgareddau hyn i dynnu lawr arian o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Ewrop ac Awdurdodau Lleol er mwyn gweithredu prosiectau arloesol er budd i'r gymuned. Gweithredir nifer o'r prosiectau a ariennir fel hyn mewn partneriaeth gyda sefydliadau a chymunedau yr ardal. Trwy'r gwasanaethau cyngor busnes, rydym hefyd yn cefnogi datblygiad busnesau o safon uchel sydd yn arloesol ac sydd â'r gallu i gyfrannu at gryfhau'r economi leol.