Cynhaliwyd Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli, ar nos Fercher, 19eg o Fawrth 2008.
Trefnwyd y digwyddiad gan yr asiantaeth fenter leol, Antur Teifi, ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, ac fe ddenwyd tua 300 o bobl fusnes lleol i'r seremoni lachar. Y gŵr gwadd ac arweinydd y noson oedd cyflwynydd chwaraeon gyd'r BBC, Jason Mohammad, a dywedodd ef, "Mae'r elfen o fentergarwch yn gref iawn yn sir Gaerfyrddin. Golyga fod cynhyrchiant yn ffynnu, gan fod strwythur busnes yn newid gyda'r amserau, ac fe amlygir hyn gan yr holl enillwyr a'r enwebiadau."
Derbyniodd yr enillwyr ymhob categori gydnabyddiaeth am eu gwaith caled parhaus a'u ymroddiad er sicrhau llwyddiant eu busnesau yn ogystal â datblygu'r economi leol. Cyflwynwyd tlws Grisial Cymreig Brenhinol a thystysgrif mewn ffrâm i bob enillydd. Yr enillwyr ymhob categori oedd:
Cyflwynwyd gan Geraint Jones, Pennaeth yr Americas, Busnes Rhyngwladol Cymru
Enillydd: Teddington Engineered Solutions Ltd
Cynrychiolydd yr enillydd: Paul Greenwood
Cyflwynwyd gan Brian Robinson, Prifathro Coleg Sir Gâr.
Enillydd: Corus Packaging Plus
Cynrychiolydd yr enillydd: Joe Gallacher, Rheolwr Gweithrediadau.
Cyflwynwyd gan Diana Maslin, Rheolwr Rhaglen Farchnata Rhwydwaith
Arena.
Enillydd: River View Touring Park
Cynrychiolwyr yr enillydd: Keith & Kath Brasnett
Cyflwynwyd gan y Cyng. H. Clive, Aelod Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden, Cyngor Sir Caerfyrddin.
Enillydd: Sundance Renewables
Cynrychiolydd yr enillydd: Jan Cliff
Cyflwynwyd gan Vernon Edwards - Cadeirydd Antur Teifi
Enillydd: T.O. Jones & Sons Ltd
Cynrychiolwyr yr enillydd: Kevin Jones & Dylan Jones
Cyflwynwyd gan Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Rhanbarthol y De Orllewin.
Enillydd: Calsonic Kansei Europe Plc.
Cynrychiolydd yr enillydd: derbyniwyd y wobr gan Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Rhanbarthol y De Orllewin, Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar ran Calsonic Kansei Europe Plc.
Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Dewi Enoch, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Enillydd - Teddington Engineered Solutions Ltd
Cynrychiolwyr yr enillydd: Paul Greenwood, Richard Thomas & Jason Thomas


Dywedodd John Evans, Rheolwr Gweithrediadau'r De, Antur Teifi "Yn ddi-os, y noson wobrwyo yw prif ddigwyddiad calendr busnes y Sir ac mae'n mynd o nerth i nerth. Mae'n anhygoel beth mae'r holl rai enwebwyd wedi ei gyflawni a rhaid estyn llongyfarchiadau arbennig i Teddington Engineered Solutions Ltd., y prif enillydd am eleni. Ar ôl ennill dwy wobr gategori y llynedd, aethant gam ymhellach eleni, a hynny drwy weledigaeth, ymroddiad a phenderfyniad pawb sy'n ymwneud â'r gwaith."
