Tîm o ymgynghorwyr datblygu busnes cymwysedig yw Gwasanaethau Busnes Antur Teifi(ATBS). Rydym yn darparu datrysiadau ar gyfer sicrhau cynnydd mewn busnes i ystod eang o fusnesau trefol a gwledig ledled Canolbarth, Gorllewin a De Cymru. Cafodd miloedd o gwmnïau gymorth dros y blynyddoedd mewn amrywiol ffyrdd gyda materion ariannol a chynlluniau busnes, ceisiadau am grantiau, hyfforddiant AD a materion staff, datblygu cynnyrch, mentora busnes, cyngor marchnata a gwerthiant.
Rydym yn gwrando a sylwi ar anghenion, materion a'r sialensau sy'n eich wynebu fel perchennog busnes, gan gydweithio â chi i ganfod datrysiadau ymarferol i'ch galluogi i barhau i gynyddu a ffynnu.
Bydd un o'n tîm yn galw i'ch gweld am drafodaeth cychwynnol, i ganfod y math o gymorth sydd ei angen arnoch. Yna bydd eich ymhyghorydd penodol yn darparu'r hyn sydd ei angen, drwy raglen addas o gymorth wedi ei chynllunio i ddatrys eich materion busnes.
Ariannir ein cefnogaeth busnes drwy gytundebau ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yr ydym hefyd yn darparu gwasanaethau busnes a gwasanaeth ymgynghori gyda prisiau cystadleuol.
© Antur Teifi 2010 | Dyluniwyd gan Telemat | Icons by http://dryicons.com