GWASANAETH CYFLOGI

Mae Gwasanaeth Cyllid Antur Teifi yn cynnig gwasanaeth cyflogres cyflym, fforddiadwy ac effeithiol, sy'n eich galluogi i fwrw 'mlaen gyda rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd yn dawel eich meddwl y bydd cyflogau eich gweithwyr yn cael eu gweithio allan ac y bydd pob slip cyflog yn barod yn amserol.

Cynigiwn ddau lefel o wasanaeth yn dibynnu ar anghenion eich cwmni. Yn ogystal â'r holl wasanaethau sydd ar gael o fewn ein gwasanaeth sylfaenol, gellir cynnwys delio gydag ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn y gwasanaeth cyflogres cyflawn sydd ar gael am £10 ychwanegol y person y flwyddyn. Gellir defnyddio'r gwasanaeth Cyflogres dros dro yn ystod cyfnod mamolaeth neu afiechyd tymor hir.

Pam defnyddio ein gwasanaethau ni

  • Dileu'r amser a dreuliwch ar y gyflogres
  • Gwasanaeth effeithlon a chyflym
  • Staff Dwyieithog
  • Gwasanaeth o safon am bris rhesymol

Ffïoedd Cyflogres

Cost pecyn sylfaenol Gwasanaeth Cyllid Antur Teifi yw £65 y gweithiwr y flwyddyn gydag un taliad ychwanegol o £5 am osod i fyny. Os hoffech uwchraddio i'r gwasanaeth cyflawn, yna'r gost fydd £75 y gweithiwr y flwyddyn.

Llenwch ein ffurflen ar-lein os gwelwch yn dda os hoffech fwy o wybodaeth, neu galwch Delyth Trickett, ein Rheolwr Cyllid ac Eiddo ar 01239 710238.

  1. Gosod Cyflogres
  2. Cofnodi'r holl ddata
  3. Danfonir slipiau cyflog drwy e-bost, post neu ffacs
  4. Adroddiadau perthnasol
  5. Dogfennau statudol ar gyfer taliadau Cyllid y Wlad
  6. *Delio gydag ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  7. Ffeilio ar-lein ar gyfer P45 a P46
  8. Ffeilio a darparu P60's ar-lein ar gyfer diwedd blwyddyn

NB
*Ni chynhwysir hyn yn y gwasanaeth sylfaenol.

Pris yn dechrau ar £65 yr flwyddyn ar gyfer pob gweithwr

© Antur Teifi 2010 | Dyluniwyd gan Telemat | Icons by http://dryicons.com