Cyfleusterau Cynhadledda

CYFLEUSTERAU CYNHADLEDDA

Os ydych yn trefnu digwyddiad mawr, y mae'r ystafell gynhadledda yng Nghastell Newydd Emlyn yn gallu eistedd 60 o bobl mewn steil theatr. Y mae'r ystafell yng Nghastell Newydd Emlyn hefyd yn ddelfrydol ar gyfer seminarau hyfforddi ar gyfer grwpiau mawr a bach, a gall yr ystafell gael ei osod mewn nifer o ffurf yn unol a'ch anghenion. Y mae hefyd cyfleusterau parcio am ddim ar gyfer eich cleientiaid ac fe gallwn ddarparu lluniaeth am gost ychwanegol.

Y mae ystafell llaio faint yn ein swyddfa yn Aberteifi a gall eistedd 10 - 12 o fobol mewn steil cyfarfod o amgylch y bwrdd. Y mae'r swyddfa wedi ei lleoli yng nghanol Aberteifi ac yn ddelfrydol ar gyfer hyfforddi grwpiau bychan a chyfarfodydd busnes. Mae yna uwch-daflunydd digidol, teledu, fideo a chwaraewr DVD.

Y mae'r ystafell gynhadledd yn Aberarad ar gael am bris o £80 y dydd a £45 am sesiwn bore neu prynhawn ac mae'r ystafell gynhadledd yn Aberteifi ar gael am £66 y dydd a £33 am hanner dydd(heb TAW).

Gallwn ddarparu lluniaeth ynghyd â gwasanaethau/adnoddau ychwanegol ar gyfer yr ystafell gynhadledd a'r ystafelloedd cyfarfod am gost ychwanegol. Y mae te/coffi a bisgedi ar gael am gost o £1 y pen.

Llenwch ein ffurflen ar-lein, neu os ydych am wneud ymholiad cysylltwch a Marion Morris am wybodaeth pellach ar 01239 710238.

Os hoffech archebu yr ystafell gynhadledd y mae modd i chi gael y ffurflen llogi o'r safle we sydd yn cynnwys yr amodau a thelerau (ffeil pdf) a'i ddychwelyd yn y post neu ar ebost i ymholiad@anturteifi.org.uk.

Y mae gennym hefyd ystafelloedd ychwanegol a gaell gael eu defnyddio ar gyfer materion busnes yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth, Aberhonddu, Y Drenewydd a Llanelli.

  • Mannau Cyswllt Cyfrifiadur
  • Uwchdaflunydd
  • Dwr wedi oeri (Castell Newydd Emlyn yn unig)
  • System Tymheru Aer
  • Parcio Am Ddim (Castell Newydd Emlyn yn unig)
Cyfleusterau Cynhadledda | Aberarad, Castell Newydd Emlyn
  • Arlwyaeth Bwffe
  • Te/Coffi & Bisgedi
  • Cymorth Technegol
  • Hurio Cyfrifiadur
  • Teledu/Fideo
  • Uwchdaflunydd
  • Siartau Ysgrifennu

© Antur Teifi 2010 | Dyluniwyd gan Telemat | Icons by http://dryicons.com