Antur Teifi - Yn hybu ffyniant

Cefnogaeth Busnes

Mae gan Antur Teifi dîm o ymgynghorwyr busnes ymroddgar i gyd-weithio â chi a'ch busnes er mwyn goresgyn unrhyw broblemau a datblygu busnes lwyddiannus.

Yn gweithio allan o'n swyddfeydd yn Llanelli, Caerfyrddin, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, mae gan ein tîm ystod o sgiliau a phrofiad i ddatblygu a chynorthwyo busnesau oddi fewn i Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion.

YDYCH CHI'N CHWILIO AM GYNGOR BUSNES CYFFREDINOL?

Oes gennych fusnes yn barod?

Rydym wedi cefnogi cannoedd o fusnesau ledled Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion. Gallwn gynnig cyngor, gwybodaeth a datrysiadau busnes i sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o'ch busnes.

Hoffech chi sefydlu eich busnes eich hunan?

Gall sefydlu busnes newydd fod yn brofiad anodd iawn,- gallwn ni eich helpu gyda'r camau cyntaf tuag at wireddu eich breuddwydion.

Llygad Busnes

Gwasanaeth gwybodaeth diduedd am ddim i Gymru yw Llygad Busnes, a grewyd i ddod o hyd i atebion i'ch cwestiynau am fusnes.

YDYCH CHI'N CHWILIO AM GYFLEOEDD BUSNES NEWYDD?

Hoffech chi ehangu eich cyfleoedd busnes?

Mae ein staff wedi cynorthwyo nifer o gwmnïau i fanteisio ar gyfleoedd newydd yn y farchnad. Hoffech chi fasnachu gyda'r sector gyhoeddus? Neu efallai ddod o hyd i gyflenwyr newydd a masnachu gyda busnesau lleol eraill. Gallwn eich helpu i ddatblygu eich syniadau a sicrhau fod gennych y wybodaeth i fwrw ymlaen.

DATHLU LLWYDDIANT BUSNES YNG NGORLLEWIN CYMRU

Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin 2008

Mae Antur Teifi'n cynnal Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Cynhelir y gwobrau'n flynyddol gan ddathlu arloesedd, mentergarwch a goreuon busnes y ddwy sir.

Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin - nawr yn yr 8fed mlynedd - a'r seremoni lachar a gynhelir bob mis Mawrth yw uchafbwynt y calendr busnes yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn cyflwyno'r digwyddiad mawreddog yma ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin a nifer o brif noddwyr.

Manteisiwch ar y cyfle i enwebu'ch cwmni.