Antur Teifi - Yn hybu ffyniant

Menter Gymunedol

Rhwydwaith Papurau Bro

Mae Rhwydwaith Papurau Bro Antur Teifi wedi cyd-weithio gyda 49 o bapurau bro Cymreig ledled y wlad drwy sefydlu gwefan i ddosbarthu cynnwys, rhannu ymarfer da a chynyddu cyd-weithrediad rhwng y papurau.

Mae gennym hefyd Gynllun Ysgrifenwyr Ifainc ar y cyd â BBC Cymru'r Byd, sy'n rhoi cyfle i bobl ifainc ennill £30 am ysgrifennu erthygl neu adolygiad i'w papur bro. Bydd y gwaith yn ymddangos ar wefan BBC Cymru'r Byd, os yn addas. Mae'r Rhwydwaith wedi annog pobl ifainc i ysgrifennu erthyglau ac adolygiadau, gyda'r canlyniad fod cyfraniadau wedi cynyddu gan feithrin sgiliau pobl ifainc.

Fel bo'r prosiect yn dod i ben, bydd y Rhwydwaith yn darparu Llyfryn i bob papur bro yn cynnwys cyngor ac ymarferion da i'w dilyn, ac hefyd flas o'r cyfoeth o ddeunydd gynhyrchwyd, diolch i'r Prosiect Ysgrifenwyr Ifainc.

Manylion Cyswyllt