Nôd y rhaglen Gweithredu Cymunedol Gwledig (Milltir Sgwâr) yw cynorthwyo cymunedau i ddatblygu eu galluoedd a'u sgiliau. Rydym yn gweithio i helpu'r bobl lleol i ddatblygu eu syniadau er mwyn gwella a chynnal cymuned gref a bywiog.
Gallwn ddarparu symiau bach o gymorthdal cyllidol (hyd at £1,000) i gynorthwyo cymunedau ar ddechrau prosiectau fyddai'n gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywyd y gymuned.
Mae'r rhaglen Gweithredu Cymunedol Gwledig yng Ngheredigion (Cynnal Ceredigion) yn cefnogi, drwy nifer o ddulliau amrywiol,- grwpiau cymunedol neu wirfoddol, mentrau cymdeithasol a digwyddiadau diwylliannol
Gallwn ddarparu hyd at £2,000 o gymorthdal cyllidol, drwy'r Gronfa Arian Bach, ar gyfer gweithgareddau o dan arweiniad cymunedol yng Ngheredigion. Rydym yn cefnogi'r Rhwydwaith Mentrau Cymundeol yng Ngheredigion, i feithrin cysylltiadau agosach, cynnig cyngor a gwybodaeth.
Gyda CAVO, rydym wedi datblygu Rhwydwaith Gyllidwyr Ceredigion i helpu grwpiau i ddod o hyd i'r cyllid gorau posib. Rydym yn darparu hyfforddiant i drefnwyr gwirfoddol: o gynllunio rhaglenni/posteri, i drefnu digwyddiadau a thystysgrif diogelwch cymunedol. Am wybodaeth ac enghreifftiau o waith, ewch i : www.cynnalceredigion.com