Ymdeimlad o gymuned

Bu Antur Teifi’n ymwneud ag adfywio cymunedol o’r cychwyn. Rydym wedi bod yn gweithio ledled siroedd Caerfyrddin a Cheredigion yn galluogi unigolion, cymunedau a mentrau cymdeithasol i gyrraedd eu llawn botensial.

Rydym yn cynorthwyo grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yn y ffurf canlynol:

Y mae gennym nifer o flynyddoedd o brofiad yn cynorthwyo cymunedau lleol, a lle mae’n bosib fe wnawn darparu y gwybodaeth sydd angen arnoch, neu eich cyfeirio i’r mudiadau perthnasol.

Diweddariad ar y Cynllun Datblygu Gwledig (CDG)

Y mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn rhaglen sydd wedi ei ariannu gan arian Ewropeaidd a sydd wedi ei gynllunio i gynorthwyo adfywio ardaloedd gwledig. I gael gwybodaeth pellach ynglyn a sut y gall y cynllun elwa eich menter cymunedol/cymdeithasol.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Y mae gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri amrywiaeth o grantiau sy’n dibynnol ar maint a natur eich prosiect.

Y mae modd i ni gynnig cymorth i grwpiau cymunedol drwy grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a all hefyd ddarparu arian ar gyfer cefnogaeth mentora sydd ar gael os oes angen arweiniad pellach ar eich prosiect. I gael gafael ar y cymorth yma y mae angen i chi nodi hyn yn eich ffurflen ymholiad rhagddodiad ac yn eich cais terfynol y bod angen cefnogaeth mentor arnoch i ddatblygu agweddau o’r prosiect, ynghyd ac amcangyfrif o’r nifer o ddiwrnodau o gefnogaeth sydd angen.

A wnewch chi plîs gysylltu gyda ein swyddfa yn Aberteifi ar 01239 621828 am wybodaeth pellach, ac fel bod modd i ni eich cynghori ar yr opsiwn addas ar gyfer eich prosiect cymunedol/menter cymdeithasol.