Antur Teifi - Yn hybu ffyniant

Menter Gymunedol

Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol fyddai'n hoffi datblygu Menter Gymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin?

Rhaglen sy'n cynorthwyo grwpiau cymunedol oddi fewn i Sir Gaerfyrddin wledig i sefydlu eu menter gymunedol/gymdeithasol eu hunain yw Arloesi Gwledig.

Rural Innovation

Gallwn wneud gwaith ymchwil ar eich rhan, eich cynorthwyo i ddod o hyd i grantiau cyllidol ar gyfer eich menter, creu cysylltiadau gyda sefydliadau eraill a manteisio ar eu profiad a'u gwybodaeth, yn ogystal â'ch arwain drwy'r holl broses o sefydlu eich menter gymunedol/gymdeithasol.

Os gall Arloesi Gwledig fod o gymorth i'ch grŵp cymunedol, neu eich bod yn dymuno cael mwy o wybodaeth am y rhaglen, yna cysylltwch â'r tîm Arloesi Gwledig ar 01239 710238 neu e-bost: arloesigwledig@anturteifi.org.uk