Gall Antur Teifi gynnig cefnogaeth a chyngor i helpu'ch busnes a/neu fenter gymunedol i dyfu.
Gwibdaith o amgylch rhai o'r cynhyrchwyr bwyd lleol yn Sir Gaerfyrddin. Mwynhewch flas o'r cynnyrch lleol fydd ar gael i chi a'ch gwesteion. Marchnad Caerfyrddin fydd yr alwad gyntaf,- cyfle perffaith i gyfarfod cynhyrchwyr lleol a tharo bargen! Taith fer wedyn i Siocledi Pembertons er mwyn gweld sut mae siocled yn cael ei wneud ac efallai flasu'r cynnyrch!! Yna ymweliad â Chaws Cenarth, a blasu'r caws bendigedig, cyn symud ymlaen at Gaws enwog Nantybwla.
Am fwy o wybodaeth neu drefnu eich ymweliad ewch i Wefan Gallu.
Mae Antur Teifi yn cynnal y gwobrau busnes clodfawr yma ar y cŷd â Chyngor Sir Caerfyrddin a nifer o brif noddwyr. Y gwobrau hyn - sydd nawr yn eu 8fed blwyddyn - yw uchafbwynt y calendr busnes yn Sir Gaerfyrddin, a chynhelir y seremoni wobrwyo eleni ar Fawrth 19eg.
Ymwelwch â'r dudalen wobrau am ragor o fanylion am gategorïau gwobrau eleni a sut i ymgeisio.
Manteisiwch ar y cyfle i enwebu'ch cwmni !!!
Am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau cysylltwch â John Evans, Rheolwr Gweithrediadau'r De ar 01554 772122 neu jevans@anturteifi.org.uk