Telemat  - Gwneud TG yn syml a diogel
Dell partnerCanolfan ECDL APC partnerSonicwall  partnerPrince 2NOD 32 busnes partner

Mae Telemat, sy'n gweithredu ledled Cymru, yn darparu cynnyrch a gwasanaethau TG busnes yn y meysydd allweddol canlynol.

Caledwedd & Meddalwedd TG

Y cynnyrch a'r gwasanaethau crai yma yw sylfeini adeiladwaith TG unrhyw fusnes. Gallwn gyflenwi offer TG ar gyfer un cyfrifiadur personol hyd at weinydd rhwydwaith gyfunol. Yn unol â'r galw gall ein technegwyr gwblhau'r gosod a diogelu eich sustemau.

Band eang ar gyfer Busnes

Rydym yn medru cynnig cysylltiad busnes cyflym er mwyn sicrhau fod gan eich busnes gysylltiad cyflym ac effeithlon gyda'r byd.

Cefnogaeth Technegol TG

Wrth i fusnesau ddod yn fwy dibynnol ar TG i reoli prosesau busnes o ddydd i ddydd, mae'n hanfodol medru datrys unrhyw broblemau neu ddiweddaru sustem yn gyflym ac effeithlon heb amharu'n ormodol ar y busnes. Mae ein Cytundebau Lefel Gwasanaeth TG yn darparu cefnogaeth ac ymgynghoriad o safon uchel drwy ddefnyddio'r meddalwedd diweddaraf mewn canfod o bell a bwrdd gwaith. Gall ein technegwyr dwy-ieithog weithio ar eich safle hefyd pan fo angen.

Gwe Ddatblygiad

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, pan fo nifer o fusnesau yn ystyried lleihau costau a chwilio am ddulliau newydd o ddenu cyllid, mae'r rhyngrwyd yn cynnig dull cost-effeithiol o farchnata'ch busnes i gynulleidfa ehangach. Mae'r tîm cynllunio gwefan yn creu datrysiadau pwrpasol ar delerau fforddiadwy. Yna, ar ôl sefydlu'r wefan, rydym yn darparu gwasanaeth rheoli neu hyfforddiant amgen i gadw'r safle'n gyfredol.

Hyfforddiant TG

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddiant TG; rydym yn ganolfan gymeradwy ar gyfer cymhwyster Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (E.C.D.L.). Os nad yw arholiadau E.C.D.L.yn addas i chwi, rydym yn darparu ystod o ddiwrnodau hyfforddi ar lawer o bynciau, o Wneud y Gorau o'r Peiriant Chwilio hyd at ddefnyddio Microsoft Word 2007.

Mae ein llwyddiant wrth ddarparu'r portffolio cyflawn hyn o ddatrysiadau TG pwrpasol yn golygu ein bod wedi sefydlu sail gadarn o gleientiaid teyrngar.

Pecynnau TG cyflawn. Addas i fusnesau newydd. Ydych chi angen cymorth i gynnal eich sustemau TG? Ydw Oes angen gwefan arnoch neu gymorth gydag eFarchnata? OesYdych chi angen gwella'ch sgiliau TG? YdwYdych chi'n chwilio am offer TG? Ydw Busnes gyda siaradwyr Cymraeg