Gall Antur Teifi gynnig cefnogaeth a chyngor i helpu'ch busnes a/neu fenter gymunedol i dyfu.
Y newyddion diweddara am digwyddiadau ar draws adrannau Antur Teifi.
Mae Antur Teifi wedi lawnsio ei wefan newydd i gwrdd â'i nôd busnes. Os oes gennych unrhyw adborth,cysylltwch â ni.
Mae Cymuned Fusnes Sir Gaerfyrddin unwaith eto'n ymbaratoi ar gyfer Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin.
Trefnir y Gwobrau, sy'n dathlu cyflawniadau busnesau lleol, gan Antur Teifi, Asiantaeth Fenter Gorllewin Cymru, a Chyngor Sir Caerfyrddin, ac fe'u cynhelir yn flynyddol yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli. Trefnwyd i gynnal digwyddiad eleni ar Fawrth 19eg 2008, felly nodwch y dyddiad,- y darlledwr poblogaidd Jason Mohammad fydd y gŵr gwadd. Pris tocyn yw £40 yr un neu £400 am fwrdd ar gyfer deg. Unwaith eto, prif noddwr y digwyddiad yw Cyngor Sir Caerfyrddin a dywedodd y Cyng. Clive Scourfield, sy'n Aelod o Fwrdd Gweithredol Adfywio a Hamdden, "Mae'n bwysig i ni fel awdurdod lleol i gefnogi busnesau lleol a chydnabod y gwaith a wnānt oddi fewn i'r Sir."
Fis Mawrth diwethaf, ymgasglodd dros 300 o bobl o gymuned fusnes y sir i fwynhau cinio ffurfiol, cyn i'r wraig wadd Mai Davies gyhoeddi enillwyr y gwobrau mawreddog mewn seremoni ddisglair.
Dywedodd Dewi Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi, "Mae Gwobrau Busness Sir Gaerfyrddin yn ddathliad pwysig o'r sgiliau, adnoddau ac arloesedd amlygwyd gan Fusnesau'r sir. Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfoeth o fusnesau o ansawdd uchel sy'n darparu gwaith yn yr ardal ac mae'n hanfodol ein bod yn medru cynnig gwaith a chyfleusterau gyrfa i ieuenctid y sir.
Mae safon yr enwebiadau'n uchel, ac mae hyn yn dangos ansawdd ac amrywiaeth y sail economaidd lleol. Llongyfarchiadau i Schaeffler UK Limited ar ennill Gwobr Busnes y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin 2007."
Rhennir y gwobrau i chwech categori am eleni:
Bydd enillwyr y categorļau unigol yn cystadlu wedyn am Wobr Busnes y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin a noddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer unrhyw un o'r categorïau uchod. Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu brynu tocynnau i fynychu gwobrau eleni, yna cysylltwch â:
John Evans
Rheolwr Gweithrediadau'r De
Antur Teifi
Tel: 01554 772122
Ebost: jevans@anturteifi.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener, Chwefror 1af 2008.
Pan fyddwch chi'n darllen eich papur bro, efallai na wyddoch am yr holl waith ac arbenigedd sydd wedi mynd i mewn i'w gynhyrchu, ac i wneud hynny i safon mor uchel. Am y tro cyntaf mae hyn i gyd ar gof a chadw, diolch i dīm y Rhwydwaith, Antur Teifi. Rhwng dau glawr Cyfeirlyfr Rhwydwaith Cenedlaethol Papurau Bro ceir gwybodaeth am bob agwedd o waith papurau bro, a llawer o syniadau ar sut i ddatblygu ar gyfer y dyfodol.
Casglwyd yr wybodaeth wedi i Swyddogion y Rhwydwaith gynnal nifer o gyfarfodydd rhanbarthol rhwng y papurau, a chreu gwefan yn gyfrwng iddynt rannu syniadau ac arferion da. Yn awr mae'r papurau yn eu tro wedi derbyn copïau o'r Cyfeirlyfr, a fydd yn galluogi gwirfoddolwyr newydd i gyfarwyddo â'r gwaith, a datrys ambell bicil i'r selogion o bryd i'w gilydd.
Yn nyddiau facebook a myspace, mae pwyslais beunyddiol ar rwydweithio, ac mae papurau bro wedi manteisio'n fawr ar y cyfle i wneud hynny yn y cyfarfodydd a thrwy'r wefan. Mae rhai papurau bro blaengar er enghraifft wedi dechrau argraffu mewn lliw, neu roi cod bar ar y clawr i hwyluso gwerthiant, a drwy rannu eu profiadau wedi annog eraill i gyflwyno datblygiadau tebyg. Gan fod pob papur yn unigryw, mae gan bawb rywbeth i'w gynnig i'r drafodaeth, a chyfle i wrando ar safbwyntiau gwahanol, ac adlewyrchir hyn yn y cyfoeth o ddeunydd yn y Cyfeirlyfr.
"Bu'r Rhwydwaith yn gymorth gwerth ei gael i'r Glannau," meddai Gruff Roberts, Ysgrifennydd papur bro arfordir y Gogledd Ddwyrain. "A phob papur bro arall, choelia i byth! Dyma, am y tro cyntaf erioed, gyfrwng i uno holl bapurau bro Cymru a'u cael i ddeall mwy am waith a phroblemau ei gilydd. Bu'r cyfarfodydd rhanbarthol yn fuddiol dros ben o ran rhannu profiadau a gwybodaeth. Diolch yn fawr i bawb a gafodd y weledigaeth a roddodd fod i'r Rhwydwaith."
Am fwy o wybodaeth am y Cyfeirlyfr cysylltwch â Megan Jones, Gweithredydd Rhwydwaith Papurau Bro, Swyddfa Antur Teifi, 23 Stryd Fawr, Llambed. Rhif ffôn 01570 423 410 neu 07970124983. Cyfeiriad ebost - megan.jones@anturteifi.org.uk
Bu'r noson wobrwyo yn llwyddiant ysgubol eleni a dyfarnwyd Gwobr Busnes y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin i Teddington Engineered Solutions Ltd. Ewch i wefan Llanelli Star i weld fidio o'r noson ac i ddarllen mwy am y seremoni wobrwyo.
Cliciwch yma i ymweld â thudalen Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin lle gwelwch restr o enillwyr eleni.