Antur Teifi - Yn Hybu Ffyniant

Menter Gymunedol

Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro

Ers 2006 mae prosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro wedi cynnig cymorth a chefnogaeth i bapurau bro Cymraeg eu hiaith yn y ddwy sir, yn ogystal â sefydlu papur newydd yn ne Sir Benfro - Dan y Landsker.

Mae prosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro yn cynnig cyngor a chefnogaeth i wirfoddolwyr sy'n gweithio ar Bapurau Bro Cymraeg eu hiaith yn y ddwy sir ar gynhyrchu a hybu eu cyhoeddiadau.

Ar ôl cyflenwi offer cyfrifiadurol i'r papurau sy'n rhan o'r Prosiect, gallwn hefyd gynnig hyfforddiant sylfaenol a/neu uwch ar sut i'w defnyddio.

Manylion cyswllt