Gall Antur Teifi gynnig cefnogaeth a chyngor i helpu'ch busnes a/neu fenter gymunedol i dyfu.
Mae'r dudalen hon yn egluro sut y byddwn yn defnyddio ac yn parchu unrhyw ddata y byddwn yn ei gasglu gennych
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd cyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti neu Adran o'r Lywodraeth oni rowch ganiatâd i ni i wneud hynny.
Casglwn ddau fath o wybodaeth gan ymwelwyr â safle Antur Teifi: adborth (trwy e-byst i'r golygydd) a gwybodaeth sy'n ymwneud â defnyddio'r safle, o 'cookies' a ffeiliau cofnodi.
Rydym yn croesawu eich syniadau a’ch sylwadau. Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at ymholiad@anturteifi.org.uk.
Efallai y bydd angen i ni gysylltu ag Adrannau eraill o’r cwmni er mwyn ateb cwestiynau a anfonir atom. Os yw’ch cwestiwn yn un technegol, efallai y bydd angen i ni ei drosglwyddo i'n cyflenwyr technegol. Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol wrth ddelio â’ch ymholiad, os na fydd gennym eich caniatâd i wneud hynny.
Ni defnyddir "cookies" ar y wefan yma.
Mae safle we Antur Teifi yn cynnwys cysylltiadau â safleoedd eraill ar y we, sy'n perthyn i Adrannau 'r cwmni a sefydliadau eraill.
Dim ond i'n safle ni y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, felly dylech bob amser fod yn ymwybodol pan fyddwch yn symud i safle arall, a dylech ddarllen datganiad preifatrwydd unrhyw safle sy'n casglu gwybodaeth bersonol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol a roddwyd i ni i unrhyw safle arall.
Os ydych yn dymuno gweld ein cofnodion o unrhyw ohebiaeth yr ydych wedi'i anfon atom, neu os oes gennych ymholiad neu gwyn ynglyn â'r polisi preifatrwydd hwn neu'r safle, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at: ymholiad@anturteifi.org.uk
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn diweddaru’r fersiwn ar y dudalen hon. Gallwch ymweld â’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r wybodaeth a gesglir gennym, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu ag unrhyw un arall. Fersiwn: 30 Mai 2003
Os ydych yn dymuno copïo neu ddefnyddio logo Antur Teifi, mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan y perchennog hawlfraint ymlaen llaw. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Antur Teifi at Adran Cyfarwyddo, Antur Teifi, Parc Busnes Aberarad, Castell Newydd Emlyn, SA38 9DB e-bost: ymholiad@anturteifi.org.uk