Antur Teifi = Yn Hybu Ffyniant

Gall Antur Teifi gynnig cefnogaeth a chyngor i helpu'ch busnes a/neu fenter gymunedol i dyfu.

GWASANAETHAU RHEOLAETH BUSNES

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau rheolaeth sydd wedi eu cynllunio i sicrhau fod swyddogaeth cefnogi a phrosesau'ch cwmni'n gweithredu'n effeithiol.

Mae ein cleientiaid wedi darganfod mai'r budd mwyaf maent yn gael o ddefnyddio'n gwasanaethau rheolaeth yw eu bod yn medru gwneud y gorau o'u hamser i redeg a datblygu eu busnes.

Dyma'r Gwasanaethau Rheolaeth Busnes:

Gwasanaethau Cyfrifon

Cadw cyfrifon, cyfrifon Rheolaeth, rheoli rhestrau Credydwyr/Dyledwyr a Chyflogres.

Gwasanaethau Gweithdrefnau ac Archwilio

Sefydlu a rheoli sustemau gweithdrefnol y busnes, gan gynnwys rheolaeth cofnod Cwsmeriaid, rheoli ansawdd a phrosesau, ISO, Iechyd a Diogelwch a rheolaeth ceisiadau grant a chofnodion sector gyhoeddus.

Gwasanaethau ysgrifenyddol

Agendau, cyfarfodydd, cofnodion, ysgrifennu llythyrau, cyfieithu Cymraeg, ffeilio a chadw cofnod.