Rydym yn cynnig cyfanswm o bump modiwl hyfforddiant y gellwch eu mynychu drwy un o'r Canolfannau Adnoddau yn Llanelli, Caerfyrddin neu Rydaman. Mae ein gweithdai hyfforddiant ymarferol yn ddigon hyblyg ar gyfer eich anghenion, a darperir gweithlyfrau cwrs manwl i gydfynd â'r gweithdai fydd yn eich galluogi i ganolbwyntio ar yr holl elfennau angenrheidiol i chi gyflawni eich amcanion gyrfa personol.
Mae'r cwrs undydd hwn yn fan cychwyn gwych, gan fod y sesiwn yn canolbwyntio ar fagu hyder, manteision meddwl yn gadarnhaol, hunan-symbyliad a gosod amcanion swydd teilwng.
Os cawsoch eich diswyddo yn ddiweddar gallai'r modiwl un diwrnod hwn eich helpu i ddod i ddygymod ag emosiwn a phwysau cael eich diswyddo, a'ch cynorthwyo i benderfynu ar y cam nesaf. Mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ynglyn â chwilio am swydd a chyflwyniad i ddefnydd y rhyngrwyd. Mae sesiwn y prynhawn yn cynnwys defnyddio cyfrifiaduron y Ganolfan Adnoddau.
Modiwl un dydd arall sy'n cwmpasu nifer o elfennau'r cwrs Newydd eich Diswyddo, gan ganolbwyntio'n ychwanegol ar greu CV, ffurflenni cais a pharatoi at gyfweliadau.
Cwrs hanner diwrnod sy'n canolbwyntio ar ble i chwilio am swyddi gwag a sut i ganfod ac asesu eich gwerthoedd, ansawdd a sgiliau personol.
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar bob agwedd o ganfod gwerthoedd personol, priodoleddau a sgiliau o ansawdd, yn ogystal â sôn am reolaeth amser, techneg ffôn a chyfathrebu, trafod a sgiliau rheolaeth gwrthdaro.
Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am gefnogaeth gan asiantaethau allanol allai fod o gymorth i chwi ddychwelyd i waith.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch canolfan TRAC leol neu llenwch ein ffurflen ar-lein.

© Antur Teifi 2010 | Dyluniwyd gan Telemat | Icons by http://dryicons.com
Diolch yn fawr am bob cymorth i fagu hyder. Swydd amser llawn mewn awyrgylch ddelfrydol. Dyma beth yw lwc. Pob dymuniad da i chi oll.
Rosemary Crawley